Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 20 Mehefin 2017
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ymgynghoriad ar Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig: TB Buchol (45 munud)
· Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2017 (15 munud)
· Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) (120 munud)
Dydd Mercher 21 Mehefin 2017
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon (45 munud)
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Cwestiynau Amserol (20 munud)
· Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
· Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 16, 19, 20 a 27 mewn perthynas â Phroses y Gyllideb a Gweithdrefnau Cyllid (5 munud)
· Cynnig i gymeradwyo protocol y gyllideb a gytunwyd gan y Pwyllgor Cyllid a Llywodraeth Cymru (5 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ei ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
· Dadl Fer – Vikki Howells (Cwm Cynon) (30 munud)
Dydd Mawrth 27 Mehefin 2017
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Polisi a Deddfwriaeth yr Amgylchedd Hanesyddol (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Diweddariad ar Wasanaeth Braenaru 111 y GIG yng Nghymru (30 munud)
· Dadl: Datgarboneiddio yn y Sector Cyhoeddus (60 munud)
· Dadl: Cyfnod 4 y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) (15 munud)
Dydd Mercher 28 Mehefin 2017
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig (45 munud)
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Cwestiynau Amserol (20 munud)
· Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Dadl gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ei adroddiad ar ddyfodol polisïau amaethyddol a datblygu gwledig yng Nghymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Dadl Fer - Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): (30 munud)
Dydd Mawrth 4 Gorffennaf 2017
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Dadl: Ystyried yr achos dros drethi newydd yng Nghymru (60 munud)
Dydd Mercher 5 Gorffennaf 2017
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)
· Cwestiynau Amserol (20 munud)
· Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
· Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer - Jeremy Miles (Castell-nedd): (30 munud)